The Saturdays yn dod i Ogledd Cymru
Mae'r grwp The Saturdays wedi cyhoeddi y byddan nhw yn dod i Ogledd Cymru fel rhan o'u taith 'The Headline Tour'.
Bydd y merched yn perfformio yn Theatr y Pafiliwn, Rhyl ym mis Chwefror.
Dim Mwy o Docynnau
Yn y cyfamser, mae'r holl docynnau i gyngerdd Alexandra Burke yn Rhyl wedi gwerthu.
Fe ddywedodd Theatr y Pafiliwn:
"Rydym ni wrth ein boddau bod tocynnau cyngerdd Alexandra Burke wedi gwerthu mor gyflym. Rydym ni'n falch o gael dod ag artistiaid o'r ansawdd yma i Rhyl. Mae hi'n dilyn yn ol troed Paul Potts, Rhydian a JLS."