Stori'r Geni Mewn Golau ym Mhorthaethwy
Mae plant ysgol Porthaethwy yn paratoi i wefreiddio cynulleidfa gyda'u perfformiad go wahanol o stori'r Geni...
Mae disgwyl i dyrfa ymgynnull ger Ynys St Tysilio i wylio pasiant "son et lumiere" sef sain a golau.
Bydd plant Ysgol y Borth yn adrodd hanes Sant Tysilio ddaeth a Christnogaeth - ac felly stori'r Geni - i Sir Fon am y tro cyntaf yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Fydd yr ynys yn cael ei goleuo - digwyddiad go unigrwy gan nad oes trydan yno!
Ac ar ddiwedd y perfformiad bydd tan gwyllt yn llenwi'r awyr.
Wrth siarad a Heart fe ddywedodd Prifathro Ysgol y Borth - Gareth Hughes:
"Da ni'n gobeithio y bydd e'n brofiad unigryw bydd y plant yn ei gofio am byth. Mae pob ysgol yn cynnal Drama'r Geni ond dydy pawb ddim yn ei wneud o allan ar leoliad mor unigryw!"
Fe ddywedodd Kirsty Jones sy'n 10 oed ac yn actio rhan Mair yn y pasiant:
"Rydw i wedi dysgu mwy am Stori'r Geni a lot mwy o bethau. Dwi'n teimlo'n hapus iawn."
SAIN: Prifathro Ysgol y Borth, Gareth Hughes yn siarad a Steffan Messenger o Heart.
Mae'r pasiant yn rhan o Wyl Nadolig sy'n digwydd ym Mhorthaethwy o 16:00 ymlaen nos Iau, Rhagfyr 16. Mae yna wasanaeth parcio a mynd ar fws yn rhedeg o Ysgol David Hughes yn ystod yr wyl.