Storm yn Taro Môn
Bu miloedd o bobl ar Ynys Mon yn deffro i gartefi heb drydan y bore yma wrth i wyntoedd hyd at 90 milltir yr awr hyrddio dros y sir.
Bu'n rhaid cau Bont Britannia dros nos gyda cherbydau'n cael eu cyfeirio ar hyd Pont Menai. Cafodd gwasanaethau fferi o'r Ynys eu canslo.
Fuodd elusen y Groes Goch yn darparu bwyd poeth i yrrwyr oedd wedi'u dal mewn traffic oedd yn oedi oherwydd yr holl broblemau.
Cyrhaeddodd gyflymder y gwynt hyd at 78mya yng Nghaergybi. Yn Eryri - fe hyrddiodd gwyntoedd hyd at 91mya yng Nghapel Curig.
LLUN: lamp yng ngorsaf drenau Llanfairpwll wedi dod yn rhydd yn y gwynt.