Talu teyrnged i seiclwr
Mae bobl wedi bod yn talu teyrnged i seiclwr ar ol iddo farw ar Ynys Mon tra ar y ffordd i marathon Llundain.
Roedd Gareth Crockett o Moira yng Ngogledd Iwerddon yn seiclo gyda ffrindiau fel rhan o her i hel arian ar gyfer ymchwil Leukaemia & Lymphoma...Mae'r elusen wedi dweud wrth Heart fod Gareth yn berson ysbrydoledig.
Ar ben hynny mae chwaer Gareth Emma wedi dweud fod o a ffrind wedi hel deg mil o bunnau ar gyfer yr elusen cyn iddyn nhw gychwyn eu her i seiclo dros bedwar can milltir A rhedeg pedwar marathon mewn wyth diwrnod.
I gyfrannu arian er cof am Gareth a'i ffrind John, cerwch i www.justgiving.com/beldonchallenge "
Yn y cyfamser mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion i'r digwyddiad ar yr A55 ger Gwalchmai am oddeutu chwarter wedi deg bore ddoe (Dydd Mercher Ebrill 13)....Fe gafodd dyn saith deg saith mlwydd oed ei arestio a'i rhyddhau ar fechnïaeth.
Mae unrhyw berson sydd gyda gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd ar 101 (Os yng Nghymru) 0845 6071001 (Llinell Cymraeg) 0845 6071002 (Llinell Saesneg).