TEULUOEDD YN RHOI TEYRNGED
Bu farw Sian Gwenllian Lloyd Davies a Sasha Jarvis wedi i'w car daro'n erbyn wal ger tafarn y Glyn Twrog ym mhentre' Llanrug tua chwech o'r gloch fore Dydd Calan.
Mae teulu Sian wedi dweud fod y ddynes un ar hugain mlwydd oed wedi byw bywyd byr gyda gwen ar ei gwymeb, ac mae teulu Sasha wedi dweud fod y ddynes pedair ar bymtheg mlwydd oed yn berson cynnes oedd yn caru ei theulu a'i ffrindiau.
Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i apelio am wybodaeth.
Sasha Jarvis (Chwith)
Sian Gwenllian Lloyd Davies (Gwaelod)