Teyrnged i Athro Ifanc

Mae teulu a chyd-weithwyr athro ifanc, llewyrchus fu farw mewn damwain car wrth ddod adref o'i waith Ddydd Gwener wedi talu teyrnged iddo...

Fe ddywedodd teulu Ben Muskett, 25 oed, ei fod e'n llawn bywyd ac ynni.

Roedd Ben - oedd yn wreiddiol o Fethesda - newydd symud i Lanidloes i fyw gyda'i bartner.  Roedd ar ei ffordd adref pan fu farw mewn damwain car ar Ddydd Gwener, Ionawr 14 ar yr A470 yn Ganllwyd, Dolgellau.

Wrth dalu teyrnged fe ychwanegodd ei deulu:

"Bydd Ben yn gadael bwlch ym mywydau gymaint o bobl.  Roedd e'n teimlo'n angerddol dros gerddoriaeth a dysgu.  Roedd e'n fab a brawd cariadus ac yn gwbwl ymroddedig i'w bartner Ambra."

Gafodd Ben ei addysg yn Ysgol Friars ym Mangor cyn astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion.  Roedd yn rhagori ar ganu'r piano.

Yn dilyn cyfnod ym Manceinion fe ddychwelodd i Ogledd Cymru i hyfforddi bod yn athro ym Mhrifysgol Bangor.

Fe'i benodwyd yn Bennaeth Cerdd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes tra'n parhau i ddysgu'r piano yng Nghanolfan William Mathias yng Nghaernarfon. 

Fe ddywedodd Sioned Webb, Cyfarwyddwraig Artistig Canolfan William Mathias:

"Roedd e'n dan-gwyllt cerddorol, yn seren wib, yn gorwynt golygus.  Fydden ni ddim yn gorddweud wrth nodi bod Cymru wedi colli un o'i talentau cerddorol mwyaf addawol."

"Roedd ei holl ddisgyblion yn dwli arno."

Fe ychwanegodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanidloes, Darren Davies:

"Roedd Ben yn gyd-weithiwr hynod ddawnus, poblogaidd, ymroddedig a mawr ei barch.  Mae'n anodd dychmygu bywyd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes heb ei bersonoliaeth heintus, a'i bresenoldeb cyfareddol."