Teyrnged i fachgen

Mae teulu Ryan Llewelyn Owen sydd wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad, wedi talu teyrnged i’w mab 17 mlwydd oed gan ddweud “y buasai’n gwneud rhywbeth i rywun”.

Bu farw o Landudno yn yr ysbyty ddydd Sadwrn wedi i’w gar Peugeot daro arwydd ar Ffordd Conwy yn Llandudno nos Iau.

Mae rhieni Ryan, Llew a Sonya ynghyd â’i chwaer Tanya a’i frawd Marc wedi diolch i’w ffrindiau a’r nifer o deyrngedau Facebook sydd wedi body n gysur mawr iddyn nhw.

Dywedodd Tanya:  “Mae ei ffrindiau wedi bod yn wych... Bu I ferched a bechgyn aros yn yr ysbyty dydd a nos ac mae eu gofal wedi helpu’n sylweddol”.

Ychwanegodd Llew a Sonya: “Mae wedi body n gysur mawr i wybod faint o feddwl oedd gan bobl amdano.  O fewn 24 awr iddo farw, roedd yna mwy ‘na 1500 o deyrngedau”.

Yn siarad am ei fywyd, bu i Llew ddweud roedd y cyn disgybl Ysgol John Bright wastad yn diddanu’i gyd disgyblion a bod wrth ei fodd gyda phêl-droed.

Mae’r teulu yn dweud bod marwolaeth Ryan yn “wastraff bywyd ifanc”, ac meant yn gobeithio na fydd teuluoedd eraill yn gorfod dioddef yn yr un ffordd. 

Mae Ryan yn gadael ei dad, Llew, ei fam Sonya, brawd Marc, chwaer Tanya, brawd yng nghyfraith Mark a nai, Owen.

Llun: Ryan gyda'i nai, Owen