Teyrngedau i Weithiwr MI6 o Ynys Môn
Mae cymunedau Ynys Mon yn ymateb i farwolaeth y dyn o Gaergybi - Gareth Williams. Daethpwyd o hyd i'w gorff mewn bag chwaraeon mewn fflat yng nghanol Llundain ddydd Llun.
Roedd yn gyn-ddisgybl o Ysgol Bodedern a Phrifysgol Bangor.
Pan fu farw roedd yn gweithio dros dro ar secondiad i wasanaeth cudd M16. Fel arfer, fyddai'n gweithio i wasanaeth clustfeinio'r llywodraeth - GCHQ.
Mae heddlu'n parhau a phrofion i weld sut yn union y bu farw. Gafwyd hyd i'w gorff mewn bag chwaraeon yn y bath mewn fflat yn ardal Pimlico, Llundain. Mae ei gymdogion yno wedi ei ddisgrifio fel dyn tawel ond hynod gyfeillgar.
Bellach, mae'r heddlu yn ymchwilio i'w fywyd personol a phroffesiynol.
CYFWELIADAU HEART
Dyma ewythr Gareth, William Hughes.
Roedd Gareth yn seiclwr brwd, yn aelod o Glwb Seiclo Caergybi ac yn rasio gyda Chlwb Rasio Mon.
Dyma cadeirydd Clwb Rasio Mon - David Hughes.