TORIAD O SALMONELLA YN Y GOGLEDD

22 August 2013, 12:34

Mae dau ddeg dau o bobl wedi cael y salwch ers canol Mis Gorffennaf, gyda pump ohonyn nhw yn dioddef o straen unigryw.

'Roedd pump ohonyn nhw'n gorfod derbyn triniaeth yn yr Ysbyty.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud wrth Heart fod y mwyafrif o achosion wedi bod yng Ngwynedd a Conwy ac mae ymchwiliad ar droed er mwyn canfod ble gychwynodd y toriad.

Yn ogystal a hynny mae nhw'n dweud wrth unhryw berson sydd wedi cael symptomau ers canol Mis Gorffenaf, sy'n cynnwys diarrhoea a chwydu, fynd i weld eu meddyg teulu neu ffonio’r gwasanaeth iechyd 0845 4647.

Ar ben hynny mae eu cyngor i atal salwch rhag ymledu yn cynnwys golchi eich dwaelo gyda dwr cynnes a sebon.