Tywysog William yn Graddio o RAF Y Fali

Mae'r Tywysog William yn graddio o ysgol hedfan heddiw cyn dechrau gweithio fel peilot hedfan dros fynydd-dir a mor yng Ngogledd Cymru.

Mae'r dyn 28 oed - allai fod yn frenin Prydain yn y dyfodol - wedi bod yn hyfforddi yn safle'r RAF yn Y Fali ar Ynys Mon.

Bydd William - sydd wedi ei enwi yn Flight Lieutenant Wales - yn derbyn tystysgrif a bathodyn sgwadron yn y seremoni graddio - ynghyd a 6 o'i gyd-fyfyrwyr.

Bydd wedyn yn gweithio fel peilot hofrennydd yng Ngogledd Cymru.  Mae disgwyl iddo gyflawni cyfnod o 30 - 36 wythnos yma yn achub pobl sydd wedi mynd i drafferth yn y mynyddoedd ac yn y mor.

William ar Ben ei Ddigon

Yn ol y Tywysog William - mae ar ben ei ddigon ar ol cyflawni cwrs "heriol". 

"Dw i'n dwli ar hedfan  - felly bydd yn anrhydedd cael gweithio gyda'r gwasanaeth achub, gan helpu darparu gwasanaeth argyfwng mor anghenreidiol".