Un o Wrandawyr Heart yn Ennill y Loteri!

Mae un o wrandawyr Heart o Gaergybi yn dathlu ar ol ennill dros filiwn o bunnau ar y loteri!

Fe glywodd Wayne Hughes, 34, ei fod e wedi ennill nos Lun ar ol i'w fam weld ei docyn loteri a'i ffonio gyda'r newyddion.

Doedd Wayne yn methu credu'r peth felly fe redodd draw i'w thy hi ac gwneud yn siwr ddwywaith a theirgwaith drwy edrych ar dudalen y loteri ar Teletext.  Ar ol sylweddoli ei fod yn filiynydd fuodd e'n pryderu am oriau ynglun a sut i gadw'r tocyn yn ddiogel!

Fe ddywedodd Wayne: "Doeddwn i ddim yn credu'r peth i ddechrau - a chan ei bod hi mor hwyr yn y nos fe guddies i'r tocyn mewn hen gasyn CD tan y bore.  Dydw i dal yn methu credu 'mod i wedi ennill - mae'n swreal!"

Cynlluniau

Yn ogystal a symud allan o'r fflat mae'n ei rentu a phrynu ty newydd, mae Wayne yn bwriadu prynu ambell i anrheg i'w deulu a'i ffrindiau.  Bydd e'n prynu car ac yn gobeithio mynd i'r brifysgol i astudio Technoleg Gwybodaeth.

Yn ol Wayne: "Mae cael yr holl arian yma yn meddwl y galla' i fynd i'r brifysgol heb orfod poeni am dalu amdano.  Fydda' i'n parhau i weithio fel Pennaeth Adran yn Wilkinson's - ond efallai fe wna i leihau fy oriau tra dwi'n astudio".

"Dwi wir eisiau mynd ar wyliau ac efallai fe wna' i droi fyny mewn maes awyr a bwcio'r hediad cynta' allan o Brydain..."

Heart

Fe ddywedodd Wayne - sy'n sengl - ei fod e'n mwynhau gwrando ar Heart!

Dathlu Gyda Champagne

Fe allwch chi wylio Wayne yn dathlu yn y fideo isod - a gweld ein gohebydd ni yn cael ei ORCHUDDIO gyda champagne!