Will Young ym Mangor

Mae Will Young wedi bod yn crwydro o amgylch Bangor!

Fuodd e yno ar gyfer ffilmio cyfres deledu newydd o'r enw 'Bedlam'.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel "cyfres ddrama iasoer mewn chwe rhan".  Mae Will Young yn chwarae un o'r brif rhannau.

Prifysgol Neo-Gothig

Fuodd y cwmni teledu yn defnyddio adeiladau'r Brifysgol ar gyfer y gyfres.  Roedd y criw yn defnyddio prif adeilad neo-gothig y Brifysgol i gyfleu bloc o fflatiau o'r enw 'Bedlam Heights'.

Meddai llefarydd ar ran y Brifysgol:

“Roedd rhan fwya’r ffilmio’n digwydd fin nos a gyda’r nos, ac rwy’n deall bod pob dim wedi mynd yn dda. Roed y Brifysgol yn medru diwallu eu hanghenion heb greu gormod o gynnwrf, ac rwy’n deall bod y criw wedi gwirioni efo’n lleoliad. Roedd nifer fawr o’r criw hefyd wedi aros yn adnoddau llety’r Ganolfan Rheolaeth yn y Brifysgol.”

Wyt ti wedi gweld seleb yng Ngwynedd a Mon?  Cofia gysylltu - newyddion@heart.co.uk!  Neu gad wybod i ni ar Twitter - heart103cymru!