Wylfa ar Agor am 2 Flynedd Arall
Daeth cadarnhad y bydd Atomfa Niwclear Wylfa ar Ynys Mon yn dal i gynhyrchu trydan am hyd at 2 flynedd arall.
Roedd disgwyl i'r safle gau ar ddiwedd Rhagfyr 2010.
Ond mae cytundeb i ehangu defnydd yr atomfa wedi ei gadarnhau gyda gweithredwyr iechyd a diogelwch.
Mae oddeutu 640 o bobl yn dibynnu ar y safle am eu swyddi.
Wrth siarad a Heart - fe ddywedodd aelod o dim rheoli Wylfa John Idris Jones:
"Mae hwn yn rhyddhad mawr i ni gyd yma. Os fyddai hyn heb ddod trwadd mi fydda ni wedi gorffen cynhyrchu trydan ddiwedd mis Rhagfyr a byddai hynny wedi golygu ein bod ni'n dod lawr yn nhermau'r faint o bobl rydan ni'n cyflogi."
SAIN: John Idris Jones o Fwrdd Rheoli Atomfa Wylfa yn siarad a Steffan Messenger o Heart.
Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawi'r newyddion. Fe ddywedodd Cheryl Gillan:
"Mae hwn yn newyddion da i Ynys Mon a Gogledd Cymru. Mae Wylfa'n chwarae rol hanfodol yn yr economi leol a bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi annogaeth i'r gweithlu".
Gwrthwynebiad
Ond nid pawb sy'n croesawi'r penderfyniad. Fe ddywedodd Dylan Morgan o grwp ymgyrchu Pobl Atal Wylfa B wrth Heart:
"Da ni'n pryderu bod na danwydd gwahanol yn mynd i gael ei ddefnyddio. Da ni'n pryderu am y gwastraff fydd yn cael ei yrru o Wylfa a bydd 'na barhad ar yrru gwastraff niwclear mewn i For Iwerddon."
SAIN: Dylan Morgan, Pobl Atal Wylfa B.