Ymchwiliad marwolaeth eneth mewn maes carafanau

Mae Heddlu Gogledd yn parhau i ymchwilio marwolaeth merch 8 mlwydd oed a bu farw wedi iddi fynd i drafferthion mewn maes carafanau yn Sir Fflint dros y penwythnos.

Roedd yr eneth, o Ganolbarth Lloegr, yn aros yn Nhalacre gyda'i theulu pan aeth mewn i drafferthion prynhawn Sadwrn.

Cafodd ei chyhoeddi’n farw yn Ysbyty Glan Clwyd am 16.58.
 
Nid yw'r heddlu'n trin ei marwolaeth fel un amheus, ac mae swyddogion iechyd a diogelwch a'r crwner wedi'u hysbysu.