Ymchwilio i Ymosodiad ar 2 Ferch 14 Oed

Mae dyn 56 oed wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechniaeth yn dilyn ymosodiad honedig ar 2 ferch 14 oed yng Nghricieth.

Fe ddigwyddodd ger Ysgol Gynradd Cricieth ar Ddydd Sadwrn, Hydref 30ain - ychydig cyn 2yh.

Cafodd y dyn ei arestio dan amheuaeth o ymosod ar y merched.

Mae heddlu'n galw ar dystion i gysylltu a nhw ar 101, 0845 6071001 (Cymraeg) 0845 6071002 (Saesneg), drwy neges destun ar 66767 neu galw Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555111.