Ymgyrch tipio anghyfreithlon

Bydd Tîm Gorfodaeth Stryd y Cyngor, sy'n gweithio gyda menter atal tipio Taclo Tipio Cymru, yn mynd i'r afael ar ollwng sbwriel anghyfreithlon drwy ddefnyddio camerâu cudd mewn rhai ardaloedd.

Gall Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd y Cyngor a Swyddogion Cefnogol Cymunedol yr Heddlu roi dirwy o £75 yn y fan a'r lle i bobl am ollwng sbwriel. Neu mewn achosion eithafol gall rhywun sy'n euog wynebu dirwy o £50,000 neu hyd at bum mlynedd mewn carchar.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts, Uwch Arweinydd Portffolio'r Amgylchedd ar Gyngor Gwynedd:

"Mae'r rhan fwyaf o bobl efo gwir ddiddordeb yn safon yr amgylchedd lleol, yn enwedig yn eu cymuned eu hunain. Mae gollwng ysbwriel yn anharddu ardal, yn gallu peryglu iechyd y cyhoedd ac yn cynyddu'r ofn o drosedd yn lleol.

"Mae'r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn annerbyniol ac rydym ni a'n partneriaid yn benderfynol o daclo'r problemau hyn er mwyn sicrhau fod Gwynedd yn lle glanach a mwy diogel ar gyfer y rhai sy'n byw, gweithio ac ymweld â'r sir."

Ychwanegodd Gwyn Morris Jones, Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:

"Byddwn yn annog pawb i ymfalchïo yn yr amgylchedd lleol. Mae nifer o ganolfannau ailgylchu ar hyd a lled y sir lle gellir ailgylchu pob math o wastraff, does dim esgus dros ollwng a thipio sbwriel.

"Drwy ddefnyddio camerâu byddwn yn atal pobl rhag gollwng sbwriel ac yn gallu hel tystiolaeth am y lleiafrif bychan sy'n parhau i anwybyddu deddf gwlad."

Helen Jenkins yw Cydlynydd Cenedlaethol Taclo Tipio Cymru, sef cynllun sy'n tynnu mwy na 40 o sefydliadau Cymreig at ei gilydd i fynd i'r afael a thipio mewn cymunedau ar draws Cymru gan gynnwys Gwynedd:

Meddai "Mae tipio slei-bach yn drosedd ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gael gwared â'n gwastraff mewn ffordd ddiogel heb ddifrodi'r gymuned na'r amgylchedd lleol. Drwy weithio mewn partneriaeth ein bwriad yw rhannu gwybodaeth ar ffyrdd o fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ac mae defnyddio'r camerâu hyn yn ffordd o gasglu tystiolaeth all arwain at erlyn hyd yn oed mwy o bobl yng Ngwynedd."

Nodyn: Gwastraff tŷ (ee hen ddodrefn, nwyddau trydanol a bagiau du) a gwastraff masnachol (ee rwbel, deunydd pacio a hen deiars) sydd fwyaf tebygol o gael eu tipio yn anghyfreithlon ac weithiau bydd deunyddiau peryglus yn cael eu gollwng, megis asbestos