Yr Eira'n Dod!
Mae disgwyl i eira ddechrau syrthio dros Ogledd Cymru heno.
Gyda'r gwynt yn chwythu o'r Gogledd - mae disgwyl i'r tywydd gaeafol daro siroedd Gwynedd a Chonwy.
Mae'r rhagolygon yn proffwydo gorchudd o rhwng 2-5cm. Mae disgwyl yr eira tryma' yn yr Alban.
Graean a Grit
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth Heart bod yna ddigon o graean wrth gefn i gadw'r ffyrdd ar agor. Fuon nhw'n stocio mwy dros yr Haf ac mae yna oddeutu 14,000 tunnell yn eu storfeydd nhw.