Ystyried Dyfodol Uned Alaw
Mae bwrdd iechyd yn ystyried dyfodol uned ganser Ysbyty Gwynedd ym Mangor fel rhan o adolygiad pellach.
Mae aelodau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cwrdd heddiw i drafod Uned Alaw oherwydd "pwysau ar arian cyhoeddus".
Ond mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran y bwrdd na fyddai'r uned yn cau.
"Fodd bynnag oherwydd y pwysau ar arian cyhoeddus a’r angen i gynnal diogelwch, mae’r Bwrdd Iechyd yn adolygu llawer o’i wasanaethau i sicrhau y bydd yn gallu parhau i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion ar draws Gogledd Cymru ac mae’r gwasanaeth a ddarperir gan Uned Alaw yn un o lawer sy’n cael ei drafod gyda staff.”
Y "Frwydr" yn Dechrau
Ond nid yw Maer Caernarfon - y Cynghorydd Huw Edwards - yn derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd. Mae yntau wedi gofyn i'r Bwrdd gyflwyno adroddiad i Gyngor Gwynedd.
Meddai Mr Edwards: "dwi'n fawr obeithio na fydd Ward Alaw yn cau. Mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus iawn. Fuodd na rioed mwg lle na bu tan. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn na fydd y tan yma yn cael ei gynnal."
Ychwanegodd bod y newyddion wedi bod yn "sioc i lawer un".
"Fel un sydd wedi dioddef fy hun - mi ewch chi rwla am driniaeth - ond dwi'n meddwl am fy nghyfeillion ym mhen draw Pen Llyn a De Merionydd. Yr unig ffordd sydd iddyn nhw yw dod i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd."
SAIN: Gwrandewch ar y Cynghorydd Huw Edwards yn siarad a Heart.