Twitter Chatter
Y straeon diweddara o fyd Trydar/Twitter ar rhaglen brecwast Heart
TWITTER CHATTER
Ydach chi wedi gweld y llun o bryfaid cop mwya' gwenwynig y byd yn dianc o fanana gafodd ei phrynu yn Sainsbury's? Mae'n ddigon i wneud i rywun gosi drosto! Mae nifer yn trydar straeon tebyg ar Twitter y bore 'ma.
Mae 'na filoedd ar filoedd o bobl yn trydar llun o bennod ddiweddara' The Simpsons. Dros wythnos yn ol, bu farw Marcia Wallace, sy'n gyfrifol am lais Miss Krabapple yn y gyfres. Yn y bennod ddiweddara', mae Bart yn sygrifennu 'We'll miss you, Miss K.' ar y bwrdd du.
Ac mae Sharon Osbourne wedi trydar llun ohoni hi ac Ozzy'n cefnogi eu mab, Jack ar Dancing With the Stars.
Fel arfer, roedd gen i gwestiwn i Kev: PWY DD'WEDODD HYN?
'Some people in life are like huge back clouds, raining on your sunshine. Burn brighter & get some umbrellas. Don't let negativity in.'
Kelly Brook sy'n bod yn ddwys iawn ar twitter ben bore!
Mwy gen i 'fory, Elliw