New nuclear bound for Anglesey

Horizon Nuclear Power has today announced that it plans to commission its first nuclear reactor at Wylfa as early as 2020 given the right market conditions. The company aims to apply for planning consent in 2012 to construct a nuclear facility with up to 3,300MW of generation capacity.

Mae Horizon Nuclear power wedi cyhoeddi cynlluniau i gomisiynu ei orsaf Niwclear newydd yn yr Wylfa, mor fuan â 2020 os mae’r amgylchiadau farchnad yn iawn. Mae’r cwmni yn anelu gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn 2012 i adeiladu gorsaf gyda’r gallu i greu hyd at 3,300MW o bŵer.

Mae’r cyhoeddiad yn dod fel rhan o gynlluniau Horizon Nuclear Power i ddosbarthu 6,000MW o drydan carbon isle i’r Deyrnas Unedig erbyn 2025.

Byddai gorsaf yn yr Wylfa yn dod a hyd at 800 o swyddi ansawdd uchel parhaol, gan godi i 1,000 drwy gynnal a chadw, a 5,000 yn ystod y gwaith adeiladu. Mae’r cwmni yn gweithio gyda Magnox North a chyrff eraill i sicrhau trosglwyddiad o sgiliau o’r orsaf bresennol i’r un newydd, ac mae gobaith dros gyflogaeth i gymaint â phosib o’r gweithlu presennol.

Byddai gorsaf newydd yn hwb economaidd sylweddol yn lleol, a fysai’n galluogi Gogledd Cymru i elwa o fod yn ganolfan Niwclear rhagorol am genedlaethau i ddod.

Byddai cais cynllunio am ail orsaf yn Oldbury-on-Severn yn Sir Gaerloyw, yn cael ei gyflwyno ar ôl adeiladu Wylfa gychwyn.

Dywedodd Alan Smith, rheolwr prosiect ar gyfer Horizon Nuclear Power ‘’ Mae ein cyhoeddiad yn dangos ein bod ar y llwybr iawn i fod gydag adweithydd gweithredol erbyn 2020. Byddai hyn yn gyfraniad helaeth i anghenion ynni'r wlad, a thaclo’r sialens o gynhesu byd-eang.

‘’Rhan annatod o’n rhaglen bydd gweithio’n agos a chyfathrebu’n glir gyda chymunedau lleol, busnesau a’u cynrychiolwyr. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dosbarthu'r ateb gorau ynglŷn â Wylfa, wrth gynhyrchu beth mae’r wlad ei angen yn nhermau trydan dibynadwy, carbon isel.’’

Cyhoeddodd y Cynghorydd Clive McGregor, arweinydd Cyngor Môn ‘’Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw, gan ei fod yn dod a ni’n agosach i sicrhau gorsaf newydd yn y Wylfa.

‘’Golygai Gorsaf newydd swyddi safonol yn ogystal â thrawiad positif ar y cyfleoedd o fewn Gogledd Cymru. Mae’r nifer o golledion swyddi diweddar yn golygu ein bod dirfawr angen yr hwb i’r economi byddai gorsaf newydd yn dod gyda hi - o’r camau adeiladu hyd at y safle yn dod yn weithredol.

‘’Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Horizon i drafod y prosiect a be all y cwmni ddod i’r Ynys yn nhermau buddiannau economaidd.’’

Ychwanegodd ‘’Mae sicrhau gorsaf niwclear newydd ar safle’r Wylfa yn ran o brosiect ‘Ynys Ynni’ ehangach i greu swyddi drwy ffurf niwclear ac ynni adnewyddol.

‘’Y cysyniad bydd y flaenoriaeth i’r awdurdod dros y blynyddoedd nesaf fel ffurf o drawsnewid economi’r Ynys. Rydym yn cydweithio gyda phartneriaid i sicrhau fod Ynys Môn yn ganolfan o ragoriaeth i greu ynni’’

Mae Horizon Nuclear Power yn cynnal trafodaethau gyda Westinghouse ac Areva, dau gwmni sy’n ceisio am drwydded gorsafoedd niwclear yn y DU, a byddant yn dewis darparwr ar ddiwedd y flwyddyn i safle’r Wylfa.

Er hyn, tydi’r newyddion ddim wedi mynd lawr yn dda gyda grwpiau gwrth-niwclear ar yr Ynys, gyda phrotest wedi’i chynllunio bore fory (Mawrth 31ain) sydd i fod i danlinellu problemmau traffic ar yr Ynys, yn enwedig os byddai unrhyw wacâd yn cymryd lle.

Mae PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn hawlio fod gwastraff o’r adweithyddion presennol yn gorfod cael eu storio am 160 o flynyddoedd. Maent hefyd yn datgan fod amheuaeth dros allu’r safle i ddelio gydag ymosodiad terfysgol.

This announcement comes as part of Horizon Nuclear Power's proposals to deliver around 6,000MW of new, low carbon nuclear power for the UK by 2025.

*******************************************************************************************************

A new nuclear station at Wylfa could deliver up to 800 high quality permanent jobs, rising to 1,000 during maintenance and up to 5,000 jobs during construction. The company is working with Magnox North and other relevant bodies to ensure a transfer of skills from the existing station to a new facility, and hopes to secure employment for as many as possible existing 'Wylfa A' workers.

A new station would also provide a major economic boost to the local economy and enable North Wales to benefit from being a nuclear centre of excellence for generations to come.

A consent application for a second 2-3 reactor station, of up to 3,300MW at Oldbury-on-Severn in Gloucestershire, would be made once construction at Wylfa is underway.

Alan Smith, Wylfa Project Manager for Horizon Nuclear Power, commented: "Our announcement demonstrates that we are on track to deliver our first reactor by 2020. This would make a vital contribution to meeting the country's energy needs and tackling the challenge of climate change.
 
"A key part of our programme will be working closely and communicating clearly with local communities, businesses and their representatives. This will ensure we deliver the best solution for Wylfa while providing what the country needs in terms of reliable, low carbon electricity."

Councillor Clive McGregor, Leader of the Isle of Anglesey County Council, said: "We warmly welcome this announcement today, as it brings us closer to securing a new build power station at Wylfa.

"A new nuclear power station on the island would not only mean valuable and high quality jobs, but it would also have a positive impact on supply chain opportunities across North
Wales. The extent of recent job loses on the island means we desperately need the boost to the local and regional economy a new power station would bring - from the construction phase through to the site becoming operational.

"We are meeting regularly with Horizon to discuss the project and what the company could bring to Anglesey in terms of socio-economic benefits."

He added, "Securing a new nuclear power station at the Wylfa site is also part of a wider 'Energy Island' concept developed by the Isle of Anglesey County Council to create jobs through both nuclear and renewable energy projects.

"The concept will now be a priority for the authority over the next few years as a means of transforming the Island's economy. We are collaborating with partners to ensure that Anglesey becomes a centre for excellence for energy generation."

Horizon Nuclear Power is continuing formal discussions with both Westinghouse and Areva, the two firms seeking licences for their nuclear reactors in the UK, and will select a preferred vendor at the end of the year for the Wylfa site.

However, the news has gone down well with anti-nuclear campaigners on Anglesey, with a planned protest on Menai Bridge tomorrow morning (30th March) meant to highlight potential traffic problems on the Island, particularly if there had to be an evacuation.

People Against Wylfa B (PAWB) claim that waste from current reactors would have to be stored on site for 160 years.  They also claim there are doubts over the site's ability to cope in the event of a terrorist attack.